Datganiad
Ymgeisydd: Mae gan bobl ifanc Cymru bŵer.
Yn y cyngor
ysgol, dw i’n
helpu i ddod â
diwylliannau a chefndiroedd at ei gilydd, er mwyn i ni allu cael y syniadau a’r atebion gorau. Os caf fy ethol, dw i’n mynd i greu cysylltiadau gydag ysgolion
yn y rhanbarth a chysylltu pobl ar draws fy niddordebau chwaraeon a
cherddoriaeth.
Does dim llawer o
leoedd i bobl ifanc ddod at ei gilydd i gymdeithasu gyda’r nos. Dw i’n credu
byddai hybiau rhanbarthol yn rhoi cyfle i bobl ifanc gael lle diogel i greu
rhwydweithiau cymdeithasol a lle i ddysgu sgiliau bywyd hanfodol.
Yn 2026, bydd yr
henoed (60+) yn cynrychioli bron traean o bawb yng Nghymru. Mae ein cenhedlaeth
ni yn gallu gwirfoddoli i gysylltu â’r henoed i daclo unigrwydd tra’n dysgu o’r
profiadau.
Mae deall
cyfrifon banc, cyllid y tŷ,
benthyciadau a morgeisi yn hanfodol ar gyfer bywyd llwyddiannus, a dw i’n meddwl dylen nhw fod yn rhan o PSHE fel
bod ein cenhedlaeth yn gallu cymryd y camau cyntaf mewn gyrfa ac osgoi
dyledion.
Mae gan bobl
ifanc Cymru bŵer,
a dw i wir eisiau cynrychioli eich llais.