Datganiad
Ymgeisydd: Hi, Ffion ydw i a dwi'n ofalwr ifanc! Rydw i wedi bod yn Ofalwr
Ifanc ers pan oeddwn i'n 4 oed ac mae'n rhan FAWR o mywyd i; Dyma sydd wedi fy
ngwneud i’n bwy ydw i heddiw. Rydw i'n gwirfoddoli gyda phrosiectau sydd i gyd
yn ymdrechu i wneud gwahaniaeth i bobl ifanc. Ac rydw i wedi profi caledi yn
uniongyrchol. Rydw i'n credu y gallwn ni wneud yn well bob amser, y cyfan sydd
ei angen yw ymdrech ac ymrwymiad. Wrth gofio am hyn, mae'n anrhydedd anhygoel i
mi allu cynrychioli gofalwyr ledled Cymru.
Rydw i’n edrych
ymlaen at roi llais i farn nad yw bob amser yn cael ei chlywed a hyd yn oed,
farn sydd eisoes yn uchel. Rydw i'n credu y dylai pawb gael eu clywed, eu deall
a'u cefnogi bob amser. Ond rydw i'n gwybod, yn anffodus, er mwyn i hynny
ddigwydd yn llwyr, yn ddiymdrech, a bob amser, bod angen gwneud llawer o
newidiadau mawr o hyd. Er bod newidiadau mawr yn cymryd amser, ni allaf aros i
fod yn un o lawer o leisiau sy'n gwneud yr ymdrech i fynd i'r afael â heriau a
thrafodaethau fydd yn galluogi'r newidiadau mawr hyn. Fy nod yw helpu, gwneud
gwahaniaethau, a sefyll dros yr hyn rwy'n credu ynddo. Nid yw bywyd yn hawdd a
dylai PAWB gael eu trin yn barchus.
Diolch am y cyfle
yma!