Roedd Laine yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
Trafnidiaeth
gyhoeddus am ddim i fyfyrwyr
Rhaglenni
bwyta'n iach mewn ysgolion
Mwy o gyllid i
ymddiriedolaethau natur
Laine Woolcock ydw i ac rwy wedi bod yn byw gydol fy oes yn etholaeth Ogwr.
Drwy dyfu i fyny yn Ogwr, mae gen i ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad pendant o'r
materion sydd o bwys i’r genhedlaeth iau yn ein cwm ni. Hoffwn gynrychioli Ogwr
oherwydd fy mod yn credu’n bendant mewn cynrychiolaeth gyfartal i bobl ifanc ac
yn gadarn yn fy mhenderfyniad i ddod â newid go iawn a blaengar i'n cenhedlaeth
ifanc. Mae gen i frwdfrydedd naturiol ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus ac, fel
aelod o Senedd Ieuenctid Cymru, byddaf yn blaenoriaethu'r materion sy’n bwysig
i’n cenhedlaeth ifanc. Dyna pam rwyf wedi dewis gwneud cludiant cyhoeddus,
addysg a'r amgylchedd yn ganolbwynt i fy ymgeisyddiaeth a fy ngwaith yn y
senedd yn y dyfodol.
Er mwyn sicrhau bod barn fy etholwyr yn cael ei chynrychioli'n deg, byddaf
yn cynnal digwyddiadau lle gallan nhw rannu eu barn a'u syniadau ynglŷn â materion cyfoes. Byddaf wedyn yn rhoi blaenoriaeth i gynrychioli'r farn
hon yn y senedd. Credaf y gallwn gyflawni pethau gwych pan fyddwn yn gwrando ar
bobl eraill ac mae hyn yn sgil fydd yn fy marn i’n fy ngwneud i’n gynrychiolydd
da i bobl ifanc, os byddaf yn ffodus i gael fy ethol.