Laine Woolcock
ydw i ac rwy wedi bod yn byw gydol fy oes yn etholaeth Ogwr. Drwy dyfu i fyny
yn Ogwr, mae gen i ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad pendant o'r materion sydd o
bwys i’r genhedlaeth iau yn ein cwm ni. Hoffwn gynrychioli Ogwr oherwydd fy mod
yn credu’n bendant mewn cynrychiolaeth gyfartal i bobl ifanc ac yn gadarn yn fy
mhenderfyniad i ddod â newid go iawn a blaengar i'n cenhedlaeth ifanc. Mae gen
i frwdfrydedd naturiol ar gyfer gwasanaeth cyhoeddus ac, fel aelod o Senedd
Ieuenctid Cymru, byddaf yn blaenoriaethu'r materion sy’n bwysig i’n cenhedlaeth
ifanc. Dyna pam rwyf wedi dewis gwneud cludiant cyhoeddus, addysg a'r
amgylchedd yn ganolbwynt i fy ymgeisyddiaeth a fy ngwaith yn y senedd yn y
dyfodol.
Er mwyn sicrhau
bod barn fy etholwyr yn cael ei chynrychioli'n deg, byddaf yn cynnal
digwyddiadau lle gallan nhw rannu eu barn a'u syniadau ynglŷn â materion cyfoes. Byddaf wedyn yn rhoi blaenoriaeth i gynrychioli'r farn
hon yn y senedd. Credaf y gallwn gyflawni pethau gwych pan fyddwn yn gwrando ar
bobl eraill ac mae hyn yn sgil fydd yn fy marn i’n fy ngwneud i’n gynrychiolydd
da i bobl ifanc, os byddaf yn ffodus i gael fy ethol.