Roedd Lloyd yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
Mynd i'r afael
ag iechyd meddwl
Newid cwricwlwm
Cyfleoedd yn y
dyfodol
Rydw i am fod yn rhan o Senedd Ieuenctid Cymru gan fod gen i ddiddordeb
mawr mewn gwleidyddiaeth a gwaith mewnol Cymru a Phrydain. Rydw i wedi bod
eisiau cael llwyfan ers peth amser i rannu pryderon fy ffrindiau, fy
nghyfoedion a phryderon fy hun am ein haddysg a'r byd rydyn ni'n byw ynddo.
Senedd Ieuenctid Cymru yw'r llwyfan hwnnw. Drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf,
rydw i wedi bod yn gyfranogwr mewn nifer o deithiau gyda thema wleidyddol
gyda'm hysgol lle rydw i wedi mynegi fy marn fy hun mewn amgylchedd ffurfiol.
Rydw i'n credu y dylai pobl bleidleisio drosta i gan nad oes gen i ofn
lleisio fy marn, rydw i'n wybodus iawn mewn materion cymdeithasol a
gwleidyddol, ac rydw i'n fedrus iawn mewn dadl. Pan fyddwn i'n rhan o'r Senedd,
mi fyddwn i'n dosbarthu cyfeiriad e-bost a chyfrif Instagram lle gallai
etholwyr gysylltu รข mi am broblemau a syniadau. Byddwn i'n dosbarthu'r manylion
hynny drwy fy ysgol a'r cyngor lleol. Rydw i wir yn credu, pe bawn i'n aelod, y
gallwn i greu newid a rhoi llais i bobl ifanc ym Mynwy a gweddill Cymru.