Datganiad
Ymgeisydd: Mae pobl ifanc Gorllewin Caerdydd yn teimlo bod neb yn gwrando, ac
maen nhw’n iawn.
Mae gyda ni
syniadau gwych. Weithiau, dydyn nhw’m yn cael eu clywed. Rydyn ni’n teimlo fel
bod yr ysgol, y coleg, ein rhieni ac eraill yn anwybyddu ni. Dw i’n mynd i
wneud yn siŵr
fy mod i’n
llais i bobl ifanc yn yr ardal drwy
>>>>
>>>wrando
ar broblemau
>>>estyn
allan er mwyn rhoi llais i’r rhai sydd angen
>>>gweithredu
gyda’ch lleisiau chi ar gyfer newid positif.
<<<
Fel aelod o
fforymau fel Cyngor Ieuenctid Caerdydd, mae gen i brofiad yn trafod materion
sy’n effeithio ar bobl ifanc gydag arweinwyr a llunwyr polisïau i wneud
gwahaniaeth.
Gan fy mod i’n
niwroamrywiol, dw i’n gwybod sut deimlad yw cael eich anwybyddu, cael rhywun yn
eich diystyru fel rhywun diflas neu ddwl hyd yn oed.
Mae bod yn
siaradwr Cymraeg rhugl hefyd yn hwb i fy ymgysylltiad cryf yn y gymuned.
Bydd hyn oll yn
fy helpu i gysylltu â chymunedau ymylol a rhoi llais mewn pŵer iddyn nhw.
Bydd fy
ymgyrchoedd yn cynnwys chi mewn penderfyniadau yn effeithio ar ein dyfodol.
Bydd pleidleisio
drosof fi yn rhoi platfform i chi fynegi barn fel bod nhw’n cael eu gweithredu,
nid eu rhoi i un ochr.