Roedd Nia-Rose yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
- Iechyd meddwl
- Bwlio
- Cydraddoldeb
anabledd
Helo, fy enw yw Nia-Rose ac rwy'n 13 oed. Rwy'n aelod o ail uned Guides y
Mwmbwls yn Abertawe, ac rwyf wedi bod yn rhan o'r teulu Guides ers i mi fod yn
6 oed.
Rwyf wrth fy modd o gael fy newis i fod yn gynrychiolydd Girlguiding Cymru
yn y Senedd Ieuenctid. Rwy'n credu ei bod yn bwysig bod barn bobl ifanc yn cael
ei chlywed, ac mae'n bwysig bod pobl ifanc yn chwarae rhan wrth newid y ffordd
y mae ein cymunedau yn datblygu ac yn newid er lles pawb.
Rwy'n credu fy mod yn gymwys iawn ar gyfer y rôl o ystyried mai fi yw
cynrychiolydd fy nosbarth a fy mlwyddyn yn Ysgol Gyfun Bishopston. Rwy'n
mwynhau siarad cyhoeddus ac rwy'n berson cyfeillgar a chydwybodol.
Rwy'n teimlo'n gryf dros godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl a'r
ffordd y mae materion o'r fath yn effeithio ar fywydau plant a phobl ifanc.
Rwy'n credu bod angen rhagor o addysg yn y maes hwn a rhagor o ddarpariaeth i'r
rhai sy'n wynebu materion iechyd meddwl.
Yn anffodus, mae bwlio yn realiti ym mhob ysgol, a gall bwlio gael
effeithiau hynod ddinistriol. Credaf fod angen rhagor o addysg mewn ysgolion ar
effaith ymddygiad o'r fath a chamau i rymuso y rhai sy'n cael eu bwlio.
Hefyd, rwy'n credu ei bod yn bwysig bod ein cymdeithas yn ceisio lleihau'r
defnydd o blastig, gan reoli ysbwriel i warchod ein hamgylchedd.
Yn olaf, rwy'n credu mewn cyfleoedd cyfartal i bobl ag anableddau, boed yn
gorfforol neu'n feddyliol, yn ein cymunedau. O ganlyniad, rwy'n credu bod angen
cymryd camau pellach i gynnwys pobl anabl a bod angen derbyn amrywiaeth.
Fel cynrychiolydd Guiding Cymru, hoffwn ymweld ag unedau eraill ledled
Cymru i rannu fy mhrofiadau fel aelod o'r Senedd Ieuenctid a chlywed eich barn
ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig i chi o fewn eich cymunedau.
Rwy'n fwy na pharod i wrando ar eich barn a'i rhannu â'r Senedd, gan fy mod
yn credu bod barn pawb yn bwysig a bod angen ei chlywed.
Diolch am gymryd yr amser i bleidleisio drosof fi. Rwy'n gobeithio y gallaf
wneud gwahaniaeth ar eich rhan.