Datganiad
Ymgeisydd: Fy enw i yw Olive Alys Anwen Burns ac rydw i'n 15 mlwydd oed, o
Dreganna, Caerdydd. Fy hoff bynciau yw Mathemateg, Cemeg a Drama. Rydw i wedi
bod yn rhan o’r grwpiau cydraddoldeb Digon a Newid Ffem ym Mlasmawr ers nifer o
flynyddoedd, oherwydd mae'n brif flaenoriaeth i mi i wneud ein hysgol yn lle
gwell i'r gymuned LHDTC+ a sicrhau cydraddoldeb i bob unigolyn. Fel aelod o’r
rhain, rydw i wedi cwrdd â gweinidogion, megis Jeremy Miles, a chymryd rhan
mewn nifer o brosiectau creadigol diddorol. Mae gen i ddiddordeb mawr mewn
gwleidyddiaeth, ac yn ddiweddar rydw i wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau fel
yr MCOP 29, cystadlaethau dadlau, a thrafodaeth gyda Mark Drakeford. Pan fyddaf
yn hŷn, rwy'n dyheu am
weithio ym myd y gyfraith neu wleidyddiaeth. Rydw i eisiau bod yn rhan o SIC
oherwydd mae cydraddoldeb yn rhywbeth sydd yn agos at fy nghalon ac yn rhywbeth
rydw i’n
frwdfrydig i frwydro amdano. Dydw i ddim yn meddwl bod cydraddoldeb yn cael ei
drafod digon mewn gwleidyddiaeth, ac mae hyn yn rhywbeth hoffwn i'w newid.