Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Oliver Jones-Barr

Oliver Jones-Barr

Aberconwy

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Y Gymraeg
  • Tai
  • Yr Amgylchedd

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Oliver Jones-Barr

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Rydw i eisiau dod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd dw i’n credu nad yw pobl ifanc heddiw yn cael dweud eu dweud am bethau sy’n effeithio arnon ni, er enghraifft pethau fydd yn effeithio ar ein haddysg a’n dyfodol.

Os caf fy ethol, byddaf yn:

— Helpu i sicrhau tai i bobl ifanc yn y dyfodol.

— Gwneud yn siŵr bod yr amgylchedd yn cael ei warchod ar gyfer cenedlaethaur dyfodol.

— Gwneud yn siŵr bod y Gymraeg yn fyw ac yn ffynnu.

Byddaf hefyd yn gweithio’n galed i wneud yn siŵr bod gan bawb fwyd, a bod neb yn methu fforddio bwyta.

Fi yw’r dewis gorau i fod yn aelod oherwydd dw i’n benderfynol o wneud i bethau ddigwydd, mae gen i lais penderfynol ac yn wahanol i’r rhan fwyaf o wleidyddion, dw i’n cadw at fy addewidion. Byddaf hefyd yn gwneud yn siŵr bod pob llais yn cael ei glywed ac yn gwneud fy ngorau i wneud i rywbeth ddigwydd.

Dw i wedi bod yn Llysgennad Dysgu i Ysgol Aberconwy o’r blaen, a dysgais bod angen i bob person ifanc gael llais mewn gwleidyddiaeth, a deall bod ganddyn nhw lais a bod angen ei ddefnyddio! Pleidleisiwch dros Oliver Jones-Barr.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/10/2024 -

Digwyddiadau calendr: Oliver Jones-Barr