Datganiad Ymgeisydd:
Helo, fy enw i yw Poppy Jones, ac rwyf yn ddisgybl yn chweched dosbarth yn
Ysgol Syr Hugh Owen. Rwyf yn credu’n angerddol mewn gwleidyddiaeth ac yn teimlo
fy mod a’r sgiliau i allu cynrychioli fy ardal yn y Senedd yng Nghaerdydd. Mae
gennyf ddiddordeb mawr mewn addysg, yr amgylchedd a’r GIG, pethau sydd yn
bwysig iawn i ni fel pobl ifanc. Os fuaswn yn cael fy ethol fuaswn yn mynd ati
yn syth i greu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol fel Trydar ac Instagram lle
buasech yn gallu cysylltu hefo fi i rhannu erthyglau a lluniau.
Rwyf yn berson
gyda meddwl agored ac yn hoff o wrando ar syniadau pobl eraill. Credaf fod yr
hyder a’r sgiliau cyfathrebu gennyf i mi allu lleisio fy marn a chael fy neges
drosodd. Buasai’n anrhydedd enfawr cael cynrychioli Ysgol Syr Hugh Owen ac
Arfon yn y Senedd yng Nghaerdydd. Mae Cymru a’r byd yn wynebu heriau enfawr yn
y dyfodol a buaswn yn hoffi gallu cyfrannu i ddatrys rhai o’r heriau hyn ac i
gael pobl i glywed llais pobl ifanc Arfon. Oherwydd yr uchod, buasai’n fraint
o’r mwyaf pe fuasech yn penderfynu pleidleisio i mi.