Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Poppy Jones

Poppy Jones

Arfon

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Gofalu am y GIG
  • Ein hamgylchedd
  • Yr iaith Gymraeg

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Poppy Jones

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Helo, fy enw i yw Poppy Jones, ac rwyf yn ddisgybl yn chweched dosbarth yn Ysgol Syr Hugh Owen. Rwyf yn credu’n angerddol mewn gwleidyddiaeth ac yn teimlo fy mod a’r sgiliau i allu cynrychioli fy ardal yn y Senedd yng Nghaerdydd. Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn addysg, yr amgylchedd a’r GIG, pethau sydd yn bwysig iawn i ni fel pobl ifanc. Os fuaswn yn cael fy ethol fuaswn yn mynd ati yn syth i greu cyfrifon cyfryngau cymdeithasol fel Trydar ac Instagram lle buasech yn gallu cysylltu hefo fi i rhannu erthyglau a lluniau. 

Rwyf yn berson gyda meddwl agored ac yn hoff o wrando ar syniadau pobl eraill. Credaf fod yr hyder a’r sgiliau cyfathrebu gennyf i mi allu lleisio fy marn a chael fy neges drosodd. Buasai’n anrhydedd enfawr cael cynrychioli Ysgol Syr Hugh Owen ac Arfon yn y Senedd yng Nghaerdydd. Mae Cymru a’r byd yn wynebu heriau enfawr yn y dyfodol a buaswn yn hoffi gallu cyfrannu i ddatrys rhai o’r heriau hyn ac i gael pobl i glywed llais pobl ifanc Arfon. Oherwydd yr uchod, buasai’n fraint o’r mwyaf pe fuasech yn penderfynu pleidleisio i mi.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Poppy Jones