Datganiad yr
ymgeisydd: Mae Cymru yn wlad amrywiol a chynnes a'i phobl ifanc yw ei dyfodol.
Er mwyn sicrhau bod Cymru yn cynnal ei diwylliant, ei hamgylchedd a’i chymeriad
teuluol a chroesawgar, mae angen pobl arnom sy'n deall pob cymuned ac sydd bob
amser yn barod i ddysgu. Rhywun sy'n awyddus i ddangos dealltwriaeth gyda phobl
o bob cefndir; yn anad dim rhywun sy'n barod i sicrhau newid ar ein strydoedd,
yn ein hysgolion ac yn ein gweithleoedd.
Rwy'n credu bod
angen clywed ein lleisiau ac felly credaf fy mod i'n unigolyn sy'n ddigon
hyderus i sicrhau bod pawb yn gallu dweud eu dweud a gweld canlyniadau. Rwy'n
deall yr heriau o fod yn fy arddegau, boed yn faterion yn ymwneud â'r
amgylchedd, y cyfryngau cymdeithasol neu iechyd meddwl. Mae gen i lawer o
syniadau ar wella Cymru ac rwy’n awyddus i glywed mwy o safbwyntiau.
Rwy'n aelod o
gyngor ieuenctid Caerdydd ac rwy'n aml yn rhyngweithio â phobl ifanc eraill
sydd â diddordeb mewn gwneud newid yng Nghaerdydd. Rydw i hefyd yn deall
materion sy’n ymwneud ag amrywiaeth, alcohol a chyffuriau, iechyd meddwl,
materion ar y stryd, bwlio a'r cyfryngau cymdeithasol. Rwy'n ymwybodol o’r hyn
y mae plant fy oedran i yn ei feddwl o Gymru a'r Senedd a bydd hyn o gymorth
imi pe bawn i'n dod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.