Datganiad
ymgeisydd: Rwy’n sefyll i gael fy ethol i Senedd Ieuenctid Cymru er mwyn
sicrhau bod pob person ifanc yn fy etholaeth yn teimlo bod eu llais yn gallu
cael eu clywed ar y llwyfan cenedlaethol. Credaf yn aml mai'r materion mwyaf yn
ein cymdeithas yw'r rhai nad ydynt yn cael eu trafod, a bod y broblem honno, yn
fy marn i, yn deillio o’r ffaith nad yw’r gwleidyddion sy’n rhedeg ein gwlad yn
talu sylw i bobl ifanc heddiw. Fy amcan yw sicrhau, waeth beth fo'ch hil,
rhywioldeb, crefydd, hunaniaeth o ran rhywedd, neu gefndir cymdeithasol, eich
bod yn teimlo eich bod yn cael eich cynrychioli gan fy ymgyrch.
Rwyf innau’n dod
o gefndir dosbarth gweithiol, ac mae gwerthoedd gwaith caled a’r ysbryd
cymunedol y mae Cymru’n ymfalchïo ynddo yn ganolog i’m credoau fy hun. Hoffwn
fod yn llais i'r rhai sy'n union fel fi; plant y rhieni sy'n gweithio'n galed i
yrru'r genedl hon yn ei blaen. Dyma un o'r nifer o resymau pam fy mod i’n
gynrychiolydd delfrydol i gynrychioli eich buddiannau yn y Senedd.
Os ydw i’n cael
fy ethol, bydd fy llwyfan yn canolbwyntio'n bennaf ar wella bywydau pobl ifanc
yng Nghymru, gan gynnwys mynediad gwell at ofal iechyd, darparu mwy o gyfleoedd
i lwyddo, a lobïo'r llywodraeth i dorri costau byw i deuluoedd ar incwm
cyfyngedig.