Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Roan Goulden

Roan Goulden

Ogwr

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Gwella cymorth iechyd meddwl
  • Cyfle cyfartal i bob plentyn
  • Torri trethi i deuluoedd sy'n gweithio

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Roan Goulden

Bywgraffiad

Datganiad ymgeisydd: Rwy’n sefyll i gael fy ethol i Senedd Ieuenctid Cymru er mwyn sicrhau bod pob person ifanc yn fy etholaeth yn teimlo bod eu llais yn gallu cael eu clywed ar y llwyfan cenedlaethol. Credaf yn aml mai'r materion mwyaf yn ein cymdeithas yw'r rhai nad ydynt yn cael eu trafod, a bod y broblem honno, yn fy marn i, yn deillio o’r ffaith nad yw’r gwleidyddion sy’n rhedeg ein gwlad yn talu sylw i bobl ifanc heddiw. Fy amcan yw sicrhau, waeth beth fo'ch hil, rhywioldeb, crefydd, hunaniaeth o ran rhywedd, neu gefndir cymdeithasol, eich bod yn teimlo eich bod yn cael eich cynrychioli gan fy ymgyrch.

Rwyf innau’n dod o gefndir dosbarth gweithiol, ac mae gwerthoedd gwaith caled a’r ysbryd cymunedol y mae Cymru’n ymfalchïo ynddo yn ganolog i’m credoau fy hun. Hoffwn fod yn llais i'r rhai sy'n union fel fi; plant y rhieni sy'n gweithio'n galed i yrru'r genedl hon yn ei blaen. Dyma un o'r nifer o resymau pam fy mod i’n gynrychiolydd delfrydol i gynrychioli eich buddiannau yn y Senedd.

Os ydw i’n cael fy ethol, bydd fy llwyfan yn canolbwyntio'n bennaf ar wella bywydau pobl ifanc yng Nghymru, gan gynnwys mynediad gwell at ofal iechyd, darparu mwy o gyfleoedd i lwyddo, a lobïo'r llywodraeth i dorri costau byw i deuluoedd ar incwm cyfyngedig.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Roan Goulden