Datganiad
ymgeisydd: Fy enw i yw Ruby Cradle, ac rwy’n frwd dros ymuno â Senedd Ieuenctid
Cymru, oherwydd fy mod i wedi gweld y canlyniadau a’r effeithiau cadarnhaol a buddiol
a welwyd gan bobl ifanc yng Nghymru o ganlyniad i ymdrechion y Senedd Ieuenctid
ddiwethaf a hoffwn barhau â’u hymdrechion llwyddiannus a’r gwaith a gyflawnwyd.
Byddwn yn ceisio
ymgynghori â phobl ifanc yn fy ardal drwy ddulliau sydd wedi’u hen sefydlu fel
y cyfryngau cymdeithasol, rhaglenni ysgolion, a’r rhaglenni a digwyddiadau a
gynhelir gan y Senedd Ieuenctid ei hun. Credaf y dylai pobl ystyried
pleidleisio drosof oherwydd byddwn yn llysgennad optimistaidd a llawn
cymhelliant i bobl ifanc fy etholaeth, a byddaf yn gwneud popeth o fewn fy
ngallu i gynrychioli anghenion pobl ifanc a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu
clywed ar lefel genedlaethol.
Rwyf wedi
cynrychioli fy ngrŵp
blwyddyn dros y chwe blynedd diwethaf trwy fod yn aelod gweithgar o'r cyngor
ysgol a'r eco-gyngor, yn ogystal â dod yn swyddog eleni. Credaf y byddai fy mhrofiad yn y rolau hyn yn
cyfrannu at fod yn gynrychiolydd effeithiol a chydwybodol i aelodau fy
etholaeth oherwydd y nifer o sgiliau gwahanol yr wyf wedi'u datblygu.