Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Ruby Cradle

Ruby Cradle

Rhondda

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Codi ymwybyddiaeth o dlodi mislif.
  • Ehangu a gwella'r cwricwlwm.
  • Gwella adnoddau ysgolion ar gyfer anableddau.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Ruby Cradle

Bywgraffiad

Datganiad ymgeisydd: Fy enw i yw Ruby Cradle, ac rwy’n frwd dros ymuno â Senedd Ieuenctid Cymru, oherwydd fy mod i wedi gweld y canlyniadau a’r effeithiau cadarnhaol a buddiol a welwyd gan bobl ifanc yng Nghymru o ganlyniad i ymdrechion y Senedd Ieuenctid ddiwethaf a hoffwn barhau â’u hymdrechion llwyddiannus a’r gwaith a gyflawnwyd.

Byddwn yn ceisio ymgynghori â phobl ifanc yn fy ardal drwy ddulliau sydd wedi’u hen sefydlu fel y cyfryngau cymdeithasol, rhaglenni ysgolion, a’r rhaglenni a digwyddiadau a gynhelir gan y Senedd Ieuenctid ei hun. Credaf y dylai pobl ystyried pleidleisio drosof oherwydd byddwn yn llysgennad optimistaidd a llawn cymhelliant i bobl ifanc fy etholaeth, a byddaf yn gwneud popeth o fewn fy ngallu i gynrychioli anghenion pobl ifanc a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed ar lefel genedlaethol.

Rwyf wedi cynrychioli fy ngrŵp blwyddyn dros y chwe blynedd diwethaf trwy fod yn aelod gweithgar o'r cyngor ysgol a'r eco-gyngor, yn ogystal â dod yn swyddog eleni. Credaf y byddai fy mhrofiad yn y rolau hyn yn cyfrannu at fod yn gynrychiolydd effeithiol a chydwybodol i aelodau fy etholaeth oherwydd y nifer o sgiliau gwahanol yr wyf wedi'u datblygu.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Ruby Cradle