Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Taliesin Evans

Taliesin Evans

Torfaen

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Cyllid gwell i ysgolion
  • Atal camddefnyddio alcohol a chyffuriau
  • Lleihau tlodi plant

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Taliesin Evans

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Fy enw i yw Taliesin. Ces i fy ngeni a fy magu yn Nhorfaen. Hoffwn i fod yn Aelod SIC oherwydd y ffaith fy mod i’n angerddol am wleidyddiaeth, a fy nghymuned leol ac wedi bod ers amser maith. Mae fy materion allweddol yn cynnwys cyllid gwell i ysgolion, gan nad yw ysgolion eglwysig, fel fy un i, yn cael llawer o gyllid, dim ond oherwydd ei bod hi’n ysgol eglwysig. Mae recriwtio a chadw athrawon, prynu cyfarpar addysgol a gwaith cynnal a chadw adeiladau hanfodol yn faterion dybryd. Mae camddefnyddio alcohol a chyffuriau, sy’n broblem fawr yn Nhorfaen, yn destun pryder mawr i mi. Dw i wedi gweld llawer o bobl ifanc yn yfed alcohol neu’n fepio, sy’n gwneud i mi deimlo’n anesmwyth wrth feddwl amdano. Dw i hefyd eisiau gweithio gyda’r Gwasanaeth Ieuenctid i ddatblygu polisïau sy’n lleihau effaith tlodi ar bobl ifanc yn Nhorfaen. Plîs pleidleisiwch drosof i!

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/10/2024 -

Digwyddiadau calendr: Taliesin Evans