Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Talulah Thomas

Talulah Thomas

De Clwyd

Roedd Talulah yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Talulah Thomas

Bywgraffiad

Roedd Talulah yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Addysg Iechyd Meddwl mewn ysgolion
  • Hybu diwylliant a'r Iaith Gymraeg
  • Cyfranogiad Ieuenctid Cymru mewn Gwleidyddiaeth

Dymunwn fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru gan fod dyfodol gwleidyddol Cymru yn gorffwys yn ein hieuenctid ac mae’n rhaid ymgysylltu a phobl ifanc ein cenedl er mwyn sicrhau datblygiad.

Buaswn yn annog trafodaethau o fewn ysgolion trwy gychwyn pwyllgor hollgynhwysol a fydd yn tanlinellu pa faterion sydd yn bwysig i’r etholwyr ifanc, gan eu barn nhw sydd yn fwyaf pwysig i mi. Gobeithiwn, drwy hyn, adlewyrchu gwleidyddiaeth fel elfen hanfodol o fywyd pob dydd a chreu pont rhwng lleisiau’r ifanc a’r Senedd er mwyn dinistrio’r rhethreg ei fod yn anhygyrch ac elitaidd. Hoffwn greu podlediad iaith Gymraeg gyda phobl ifanc a fydd yn trafod a dadlau materion megis Iechyd Meddwl, Annibyniaeth i Gymru a’r Oedran Bleidlais. Trwy ddefnyddio ffurf fodern, gobeithiwn godi materion gwleidyddol mewn ffordd hamddenol a hygyrch.

Trwy fod yn aelod o’r mudiad Bwrdd Syr IfanC a gweithredu fel Llysgennad fy ardal, rwyf wedi mabwysiadu sgiliau trafod a dadlau’n hyderus mewn grwp dros faterion ynghyd a chyfrannu at y gymuned. Nid oes gen i ofn lleisio fy marn a buaswn yn gyffrous iawn i gael y cyfle i weithredu dros bobl ifanc i sicrhau y cynrychiolaeth yr ydym ni fel ieuenctid Cymru yn ein haeddu.

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/05/2018 - 03/05/2021

Digwyddiadau calendr: Talulah Thomas