Datganiad
Ymgeisydd: Fel babi oedd â prognosis heb fod yn dda iawn, cefais fy mabwysiadu
ac rydw i mor falch o'r hyn rydw i wedi'i gyflawni yn byw gydag awtistiaeth ac
anableddau dysgu. Rydw i’n byw mewn aelwyd faethu sy'n helpu i ofalu am blant
sy'n dod i fyw gyda ni. Rydw i'n gweld pa mor anodd y gall fod a'r heriau y mae
plant mewn gofal yn eu hwynebu. Rydw i wedi meithrin llawer o sgiliau drwy
ennill fy Ngwobr Dug Caeredin Aur. Ar gyfer fy ngwirfoddoli, gweithiais mewn
theatr leol lle dysgais weithio fel rhan o dîm a threfnu digwyddiadau. Fe
wnaeth hyn fy nysgu am gyfrifoldeb a sut i gyfathrebu â phobl wahanol. Rydw i'n
Llysgennad Ieuenctid Dug Caeredin Cymru ac wedi bod yn fentor cymheiriaid yn fy
ysgol. Fe hoffwn i weld pobl ifanc sydd
ag anableddau corfforol neu anableddau dysgu yn cael eu cynnwys yn fwy ac yn
cael yr un cyfleoedd â'u cyfoedion. Rydw i am fod yn rhan o Senedd Ieuenctid
Cymru oherwydd fy mod yn pryderu am bobl ifanc waeth beth fo'u dechreuadau neu
anableddau ac rydw i am eu cynrychioli i wneud newidiadau er gwell.