Roedd Thomas yn
Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
Iechyd a lles
Addysg a Hyfforddiant
Cludiant
Hoffwn sefyll am Senedd ieuenctid Cymru oherwydd fy mod yn angerddol ynglŷn â lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed yng Nghymru ac rwy'n benderfynol o sicrhau
bod gan bobl ifanc lwyfan i'w lleisiau a bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau
yn atebol am y gwasanaethau sy’n cael eu darparu i bobl ifanc a'u teuluoedd,
rwy'n credu mai ni yw'r genhedlaeth nesaf, ac felly mae'n bwysig iawn bod ein
lleisiau, ein barn a'n cwestiynau’n cael eu clywed.
Rwy'n gyd-arweinydd cyngor ieuenctid Sir y Fflint ac er mwyn sicrhau fy mod
yn cynrychioli lleisiau, safbwyntiau a chwestiynau'r bobl ifanc yn Delyn yn
effeithiol, byddaf yn gweithio mewn partneriaeth â chyngor ieuenctid Sir y
Fflint a sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu cynrychioli yn y senedd
ieuenctid.
Pe bawn i'n cael fy ethol i Senedd ieuenctid Cymru fel cynrychiolydd i
Delyn, rwy'n addo y byddaf yn gwrando heb ragfarn, yn ystyried gyda gofal ac yn
ymladd ag ymroddiad dros farn a Materion pobl ifanc Delyn.