Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Thomas Comber

Thomas Comber

Delyn

Roedd Thomas yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Thomas Comber

Bywgraffiad

Roedd Thomas yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Iechyd a lles
  • Addysg a Hyfforddiant
  • Cludiant

Hoffwn sefyll am Senedd ieuenctid Cymru oherwydd fy mod yn angerddol ynglŷn â lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed yng Nghymru ac rwy'n benderfynol o sicrhau bod gan bobl ifanc lwyfan i'w lleisiau a bod y rhai sy'n gwneud penderfyniadau yn atebol am y gwasanaethau sy’n cael eu darparu i bobl ifanc a'u teuluoedd, rwy'n credu mai ni yw'r genhedlaeth nesaf, ac felly mae'n bwysig iawn bod ein lleisiau, ein barn a'n cwestiynau’n cael eu clywed.

Rwy'n gyd-arweinydd cyngor ieuenctid Sir y Fflint ac er mwyn sicrhau fy mod yn cynrychioli lleisiau, safbwyntiau a chwestiynau'r bobl ifanc yn Delyn yn effeithiol, byddaf yn gweithio mewn partneriaeth â chyngor ieuenctid Sir y Fflint a sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu cynrychioli yn y senedd ieuenctid.

Pe bawn i'n cael fy ethol i Senedd ieuenctid Cymru fel cynrychiolydd i Delyn, rwy'n addo y byddaf yn gwrando heb ragfarn, yn ystyried gyda gofal ac yn ymladd ag ymroddiad dros farn a Materion pobl ifanc Delyn.

Digwyddiadau calendr: Thomas Comber