Roedd Tommy yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
- Staff mewn
ysgolion â hyfforddiant rhaglen cymorth i fyfyrwyr
- Ysgolion
di-blastig
- Hyfforddiant
sgiliau bywyd i ddysgwyr
Byddwn yn mwynhau'r cyfle i fod yn aelod o’r WYP, gan fy mod yn teimlo ei
bod yn bwysig i bobl ifanc Merthyr a Rhymni gael cynrychiolydd crwn yn siarad
drostyn nhw ac yn gwneud newid i'n dyfodol. Rwy'n ddigon ffodus i fod yn
ddysgwr yn Ysgol Uwchradd Pen-y-dre ac yn ddiweddar, enillais i Wobr Addysgu
Pearson am ein cysylltiadau â rhieni a'r gymuned. Mae dysgwyr Pen-y-dre yn
ffodus i gael cyfleoedd lle rydym yn gweithio'n agos gyda'n cymuned ac mae
gennym ddigon o gyfleusterau i gynnal cyfarfodydd a digwyddiadau cymunedol.
Fel myfyriwr Drama TGAU, rwyf wedi cymryd rhan mewn llawer o gynyrchiadau.
Rwy'n hyderus wrth baratoi ar gyfer tyrfaoedd mawr a’u hannerch nhw ac rwy'n
manteisio ar bob cyfle i wneud gwahaniaeth i fy ysgol a'r bobl ifanc yma.
Rwyf bob amser wedi bod yn aelod gwerthfawr o Senedd Myfyrwyr hynod weladwy
Pen-y-dre. Rwyf wedi gwneud fy ffordd i fyny o gynrychiolydd dosbarth, i
gynrychiolydd blwyddyn ac erbyn hyn rwyf wrthi’n paratoi fy nghais i fod yn
Brif Fachgen.
Dylai pobl bleidleisio drostof fi am fy mod yn hawddgar, yn wrandäwr da a
phan fydd gen i gynllun, rwy'n benderfynol o'i gyflawni yn brydlon ac yn
berffaith.