Datganiad
Ymgeisydd: Fy enw i yw Abdul Aziz,
a dw i’n Gymro a Qatari, sy’n byw yng Nghaerdydd. Dw
i’n frwd dros roi llais i bobl ifanc, a dyna pam dw i am fod yn aelod o Senedd
Ieuenctid Cymru. Credaf fod barn a phryderon pobl ifanc yn ein hardal yn haeddu
cael eu clywed, a dw i wedi ymrwymo i sicrhau eu bod yn cael eu cynrychioli ar
bob lefel. Byddaf yn ymwneud yn frwd â phobl ifanc yn ein hardal trwy
gyfarfodydd rheolaidd, y cyfryngau cymdeithasol, a digwyddiadau cymunedol i
gasglu eich meddyliau a’ch barn ar y materion sydd bwysicaf i chi. Boed yn
addysg, cyfleoedd gwaith, neu bryderon am y dyfodol, byddaf yn gwneud yn siŵr bod eich lleisiau’n cael eu clywed yn uchel ac yn glir yn
Senedd Ieuenctid Cymru. Dylai pobl bleidleisio drosta i oherwydd fy mod i’n ymroddedig i wneud gwahaniaeth ac mae
gen i’r sgiliau i wneud hynny.
Fel siaradwr cyhoeddus hyderus sydd wrth fy modd yn cysylltu ag eraill, dw i’n berson agos atoch ac yn wrandäwr da. Dw i’n credu bod gen i’r angerdd a’r profiad i fod yn llais cryf i chi yn y
Senedd Ieuenctid.