Roedd Aled yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
Brexit ein
dyfodol ac addysg
sbwriel ac
ailgylchu
diogelwch
beicio a llwybrau beicio
Helo fy enw i yw Aled Joseph a dwi’n 13 blwydd oed ac yn dod o Gaerffili.
Rydw i’n mynychu Ysgol Gyfun Cwm Rhymni.
Dwi eisiau bod yn y senedd ieuenctid achos hyd at hyn dwi wedi bod ar
gyngor yr ysgol am flynyddoedd a nawr dwi eisiau helpu cyfleu llais yr ieuenctid
am bethau pwysigach a phethau i wneud ag ein dyfodol! Os dwi’n cael fy newis
i’ch cynrychioli byddaf eisiau rhoi mwy o arian tuag at ddiogelwch beicio a
chreu fwy o lwybrau beicio i ddiogeli blant wrth feicio i’r ysgol. Hefyd
sbwriel! Mae sbwriel yn broblem fawr yn ein cymunedau a dwi’n credu dylwn ni
newid ailgylchu i fod yn haws i bawb. Yn olaf, byddai eisiau sôn am Brexit.
Achos yn y dyfodol bydd pobl ifanc fel ni eisiau cael swyddi neu fynd i goleg
yn Ewrop a mi fydd effaith Brexit yn lleuhau ein dewisiadau.
Mae gen i brofiad o fynegi barn a siarad yn swyddogol âg oedolion wrth fod
ar cyngor yr ysgol ac wrth fod yn aelod o Scouts.