Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Gwasanaeth Ieuenctid Conwy

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Iechyd Meddwl
  • Hunaniaeth / Diwylliant Cymru
  • Sbwriel / Yr Amgylchedd

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl:

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Helo Lex Moore ydw i, dwi'n mynd i Ysgol Y Creuddyn a dwi ym mlwyddyn 10. Rydw i’'n aelod o fy nghyngor ysgol a Chyngor Ieuenctid Conwy lle rydw i wedi dysgu sgiliau fydd o gymorth i mi yn Senedd Ieuenctid Cymru. Rydw i’n dda am drafod a chynnig syniadau unigryw a gwneud cynlluniau. Rydw i’n wybodus o'r hyn sy'n digwydd yn fy ardal leol oherwydd fy nghysylltiadau gyda Chyngor Ieuenctid Conwy, y cyngor ysgol, Gwasanaeth Ieuenctid Conwy a rhai aelodau o Gyngor Conwy. Rydw i'n ddychmygus ac yn ddyfeisgar ond rydw i’n realydd gyda'r wybodaeth i gyflawni bron unrhyw beth rydw i'n angerddol amdano. Rydw i wedi cael profiad ychwanegol drwy fynd i gyfarfodydd Craffu Cyngor Conwy lle rydw i wedi gallu gweld sut mae oedolion yn delio gyda’r materion sy'n wynebu ein sir, gan roi profiad i mi a safbwynt unigryw. Rydw i'n dda am gyfuno syniadau i ffurfio cynllun cadarn. Rydw i'n angerddol am arsylwi sut mae gwledydd eraill yn delio gyda’r materion hyn, yn enwedig rhai tebyg i faterion Cymru. Rydw i am ymgorffori syniadau tramor i roi Cymru ar sylfaen wastad.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/10/2024 -

Digwyddiadau calendr: