Roedd Alys yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
- Cefnogaeth i
fyfyrwyr ag anghenion arbennig
- Addysg a
chymorth o ran iechyd meddwl
- Addysg ynghylch
y gymuned LHDTC+
Fy enw i yw Alys ac rwy'n mynd i Ysgol Gyfun Cwm Rhondda ac ar hyn o bryd
ym mlwyddyn 11. Rwyf eisiau bod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd fy
mod yn teimlo bod cymaint o broblemau yn wynebu pobl ifanc yn y Rhondda, a
Chymru’n gyffredinol ar hyn o bryd; ac mae angen mynd i'r afael â nhw, ac rwyf
eisiau helpu i ddatrys cymaint ohonyn nhw â phosib. Mae'r materion allweddol yr
wyf wedi penderfynu mynd i'r afael â nhw i gyd yn bwysig i mi gan fy mod yn
teimlo nad ydyn nhw wedi'u cynrychioli'n ddigonol ac maen nhw wedi bod, ac yn
dal i fod, yn berthnasol yn fy mywyd i a bywyd fy ffrindiau a’m cyfoedion.
Ers i mi symud i'm hysgol gyfun, rwyf wedi bod ar gyngor a senedd yr ysgol
am ddwy flynedd yn olynol, ble bûm yn ddigon ffodus i gwrdd â'r maer a chomisiynydd
Plant Cymru. Rwyf wedi bod yn gapten dosbarth ddwywaith ac wedi bod ar y cyngor
eco-ysgolion ddwywaith.
Os caf fy ethol, byddaf yn creu cymaint â phosib o gyfleoedd i ymgynghori â
phobl ifanc yn fy etholaeth i, pa un ai wyneb yn wyneb, dros y ffôn, neu
ar-lein trwy’r cyfryngau cymdeithasol ac e-bost, a byddwn yn gwneud fy ngorau i
fynd i'r afael â phryderon a materion pawb.