Datganiad
Ymgeisydd: Amber Perrott ydw i, dw i’n 11 oed. Dw i’n cystadlu i Glwb Nofio
Merthyr Tudful ac yn hyfforddi pedair gwaith yr wythnos. Dw i’n cefnogi nofwyr ifancach
na fi, gan ddatblygu eu hyder a chryfder. Dw i’n mwynhau chwarae’r Ffliwt gradd
5 a Piano gradd 2. Dw i’n cymryd rhan mewn clybiau ar ôl ysgol, gan gynnwys
hoci a phêl-rwyd. Roeddwn i ar y cyngor ysgol yn yr ysgol gynradd. Dw i’n
mwynhau dadlau a chael canlyniadau teg. Dw i’n gallu gweld o safbwyntiau
gwahanol ac mae gen i sgiliau gwaith tîm gwych. Mae’r sgiliau hyn yn bwysig i
aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.
Mae rhoi llais i
bobl yn bwysig i mi, a rhoi cyfle i bobl rannu syniadau neu bryderon. Dw i’n
credu bod angen i bob person ifanc gael cyfle i ddatblygu sgiliau a chael
rhywun yn gwrando arnynt. Dw i’n gallu helpu gwneud i hyn ddigwydd.
Os bydda’ i’n
cael fy ethol, dw i’n mynd i ganolbwyntio ar tri mater allweddol: helpu pobl
gyda phroblemau iechyd meddwl, cynnig mwy o weithgareddau trawsgwricwlaidd mewn
rhai ardaloedd a hybu prosiectau cyfeillgar i’r amgylchedd ar gyfer dyfodol
cynaliadwy. Gyda’n gilydd, byddwn ni’n gallu creu dyfodol gwell!