Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Aryan Gupta

Aryan Gupta

Llanelli

Fy mhrif ystyriaethau:

  • System Gymorth Niwroamrywiaeth
  • Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl Ieuenctid
  • Hyrwyddo Sefydliadau Ieuenctid

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Aryan Gupta

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Dw i eisiau dod yn aelod gwerthfawr o Senedd Ieuenctid Cymru ac i ddangos beth fydden i’n ei gyflawni fel aelod. Dw i wedi bod yn gynrychiolydd Cymru yn y gorffennol ar gyfer Tîm Siâp Ieuenctid yn y 25ain Jambori Sgowtiaid y Byd yn Ne Corea. Rhoddodd hyn gyfle i mi ddeall sut i gynrychioli Cymru ar lwyfan ryngwladol. Fel rhywun ag ASD cymedrol, bydden i’n gweithio ar ddod yn llais i blant niwroamrywiol yn y system addysg ac yn gweithio tuag at gynnig y cymorth cywir ar yr adeg cywir iddyn nhw, er mwyn iddynt allu cyflawni eu potensial. Dw i hefyd eisiau codi ymwybyddiaeth o’r argyfwng iechyd meddwl cynyddol ymysg ein pobl ifanc, a sut gall cymunedau weithio i wneud yn siŵr bod ein hamgylchedd yn fan diogel i blant sy’n chwilio am gymorth. Fel rhywun sy’n aelod actif o’r Sgowtiaid, dw i hefyd yn credu’n gryf ei bod hi’n bwysig hyrwyddo sefydliadau adeiladu ieuenctid yng Nghymru a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n chwarae rhan actif yn natblygiad pobl ifanc.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/10/2024 -

Digwyddiadau calendr: Aryan Gupta