Datganiad
Ymgeisydd: Rydw i’n frwdfrydig, yn angerddol ac yn optimistaidd a bydden i’n
falch o leisio barn pobl ifanc Pontypridd. Dyma pam dw i eisiau bod yn aelod
o’r Senedd Ieuenctid – i gynrychioli pobl ifanc o bob cefndir a bod yn eiriolwr
dros gydraddoldeb a rhagoriaeth. Mae rhoi yn ôl i’r gymuned yn bwysig i mi gan
ei bod yn siapio pwy ydyn ni, yn rhoi cymorth a synnwyr o berthyn a phwrpas.
Fel siaradwr Cymraeg angerddol, mae’n hanfodol ein bod yn cryfhau undod a
diwylliant. Ymhellach i hynny, mae fy ngwaith gydag ymchwil canser wedi fy
ysbrydoli i wneud yn siŵr
bod pawb yn cael cyfle cyfartal. Er y bydden i’n defnyddio cyfathrebu modern, mae
rhyngweithio wyneb yn wyneb yn hanfodol i ddeall barn wirioneddol. Dw i’n credu mewn troi gweledigaeth yn realiti
drwy wrando, ac mae gweithredu adborth yn hanfodol. Fel merch ifanc sydd wedi
tyfu i fyny drwy’r
cyfnod clo a heriau cymdeithas heddiw, bydden i’n falch o weithio gyda’n cymuned i helpu i wella ein dyfodol i
Gymru a thu hwnt.