Datganiad
Ymgeisydd: Pa mor aml mae eich trên wedi cael ei ohirio neu ei ganslo? Pa mor
aml mae rhywun annwyl i chi wedi gorfod aros am ofal meddygol pwysig? Pa mor
aml ydych chi wedi clywed bod eich ysgol yn methu gwneud rhywbeth oherwydd
“dyw’r arian ddim ar gael”? Mae pobl ifanc Delyn yn wynebu hyn bob dydd ac
rwy’n bwriadu codi ymwybyddiaeth am hynny yng Nghaerdydd.
Rwyf wedi
gwasanaethu ar fy nghyngor ysgol ers nifer o flynyddoedd, gydag un fel
cadeirydd. Dysgais i sut i gynrychioli fy nghymuned mewn materion fel mynediad
i doiledau, ansawdd ffreutur, a pholisi ymddygiad. Os byddwch yn pleidleisio i
mi fe gewch chi lais hyderus yng Nghaerdydd.
Mae gen i
safbwyntiau gwleidyddol cryf, ond rwy’n dal i allu gweithio gyda phobl rwy’n
anghytuno â nhw. Waeth pwy ydych chi, byddaf yn sicrhau bod eich llais yn cael
ei glywed.
Nid gwleidydd
cyffredin mohonof. Nid oes gan fy nheulu unrhyw gefndir mewn gwleidyddiaeth.
Serch hynny, rwy’n benderfynol o gynrychioli pobl ifanc Delyn ar y materion
sydd o bwys i ni – yn enwedig trafnidiaeth, addysg, a gofal iechyd, sy’n bwysig
iawn yn ein cornel ni o Gymru sy’n aml yn cael ei hanghofio.