Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Bowen Cole

Bowen Cole

Aelod a Etholwyd gan Bartner

YMCA Abertawe

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Iechyd Meddwl ymhlith Pobl Ifanc
  • Hiliaeth mewn Ysgolion
  • Mwy o Ddarpariaethau Ieuenctid

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Bowen Cole

Bywgraffiad

Datganiad yr Ymgeisydd: Y rheswm yr wyf yn gwneud cais i fod yn rhan o’r Senedd Ieuenctid yw oherwydd credaf fod gennyf yr hyn sydd ei angen i ddod yn aelod. Credaf y bydd angen fy mhenderfyniad, aeddfedrwydd emosiynol ac aeddfedrwydd yn gyffredinol yn y Senedd. ‘Dyw fy syniadau gwych a dealltwriaeth bob amser fyth yn dod i ben, ac mae'r ymdrech i wneud pobl eraill yn falch ohonof yn tanio fy mhenderfyniad. Rwy'n addo gwneud fy ngorau i fod yn llais uchel y bydd pawb yn gallu gwrando arno dros bobl ifanc a glaslanciau Cymru.

Oherwydd diffyg pobl ifanc yn fy ardal, bydd yn anodd ymgynghori â nhw. Ond buaswn yn rhoi gwybod iddynt eu bod yn cael eu cynrychioli gan rywun nad oedd ganddo lais, yn union fel nhw, mai fi yw’r newid y maent am ei weld. A byddant yn gwybod y bydd eu lleisiau'n cael eu clywed drwy ddefnyddio fy mhrofiadau uniongyrchol fy hun iddynt ddeall nad ydym yn wahanol o ran yr hyn rydym yn ei ddymuno. A nawr ei fod wedi ei glywed, byddaf yn gwneud yr hyn sydd ei angen ar eu cyfer. Byddaf yn nodi eu syniadau o ran yr hyn sydd orau i'r ieuenctid yn eu barn hwy, a chyda'n syniadau ni, bydd Cymru'n dod yn wlad well a mwy diogel.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Bowen Cole