Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Bryn Geary

Bryn Geary

Dwyrain Casnewydd

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Trafnidiaeth deg a fforddiadwy
  • Amgylchedd cynaliadwy
  • Iechyd meddwl ac iechyd corfforol

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Bryn Geary

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Byddai’r fraint o’ch cynrychioli yn y Senedd Ieuenctid yn fy ngalluogi i leisio pryderon a goruchwylio newidiadau sy’n berthnasol i mi a llawer o bobl eraill ar draws Dwyrain Casnewydd. Yn aelod o Gyngor Ieuenctid Casnewydd, dw i’n llwyr ddeall materion penodol ac uchelgeisiau pobl ifanc yng Nghasnewydd. Dw i’n ymwybodol o beth sy’n eich pryderu fwyaf. Dw i fy hun yn byw’n fwy gwledig, sy’n fy ngalluogi i uniaethu â safbwynt ehangach o lawer.

Byddai eich cynrychioli fel eich swyddog etholedig yn golygu ymgyrchu dros y newid mae arnon ni ei angen. Newid ar ffurf gwneud trafnidiaeth yn rhatach ac yn fwy hygyrch, annog pobl ifanc i ddiogelu’r amgylchedd, a chefnogi iechyd meddwl ac iechyd corfforol pobl ifanc. Byddai ymholiadau neu newyddion drwy gyfrif Instagram neu e-bost. Mae pleidlais drosof i’n bleidlais dros gynnydd realistig.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/10/2024 -

Digwyddiadau calendr: Bryn Geary