Roedd Cai yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
- Cyfleoedd
addysg ddefnyddiol am fywyd
- Band eang
cyflym i bawb
- Cymru
di-blastig, a charbon isel
Fy enw i yw Cai Phillips a hoffwn sefyll dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir
Benfro. Rwy’n mab fferm 15 mlwydd oed ym mlwyddyn 11 yn Ysgol Bro Myrddin yng
Nghaerfyrddin. Rwy’n aelod o’r pwyllgor eco a fy hoff bwnc yw Drama. Rwy’n hoff
o goginio a Doctor Who (ond dim ar yr un pryd!).
Mae gen i ddiddordeb mawr yng ngwleidyddiaeth hefyd, ac yn fy marn i nid
ydym ni'r ieuenctid yn cael dweud ein barn ar hyn o bryd. Teimlaf yn gryf fod
yr amser wedi dod am newid. Os byddwch chi yn pleidleisio drosof, byddaf yn
lleisio eich barn gyda phob brwdfrydedd. ‘Person ifanc ar gyfer yr ifanc!’
Byddaf hefyd yn gwrando arnoch, oherwydd ni yw’r dyfodol, mae gennym ni’r
hawl i ddweud ein dweud yn y Senedd ieuenctid newydd a chyffrous yma. Drwy bleidleisio
amdanaf byddwch chi yn sicrhau llais cryf a hyderus yn yr antur yma.
O Gastell Martin i Gaerfyrddin, mae’n ardal fy etholaeth gyda lleoliadau
mwyaf godidog yn y byd o Sir Gar i Sir Benfro. Gwledig a trefol. Ystyriaf y
rhain i gyd yn bwysig i mi a cheisiaf fy ngorau i gynrychioli ardaloedd
etholwyr. Pleidleisiwch dros newid.
Pleidleisiwch dros Cai.