Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Cai Thomas Phillips

Cai Thomas Phillips

Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

Roedd Cai yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Dioch, Llywydd. Prynhawn da, ac mae yn brynhawn da iawn yma yn y Senedd. Fy enw i yw Cai Phillips a dwi’n Aelod Senedd Ieuenctid dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Mae heddiw yn d...

Y Cyfarfod Llawn | 26/06/2019

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Cai Thomas Phillips

Bywgraffiad

Roedd Cai yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Cyfleoedd addysg ddefnyddiol am fywyd
  • Band eang cyflym i bawb
  • Cymru di-blastig, a charbon isel

Fy enw i yw Cai Phillips a hoffwn sefyll dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Rwy’n mab fferm 15 mlwydd oed ym mlwyddyn 11 yn Ysgol Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin. Rwy’n aelod o’r pwyllgor eco a fy hoff bwnc yw Drama. Rwy’n hoff o goginio a Doctor Who (ond dim ar yr un pryd!).

Mae gen i ddiddordeb mawr yng ngwleidyddiaeth hefyd, ac yn fy marn i nid ydym ni'r ieuenctid yn cael dweud ein barn ar hyn o bryd. Teimlaf yn gryf fod yr amser wedi dod am newid. Os byddwch chi yn pleidleisio drosof, byddaf yn lleisio eich barn gyda phob brwdfrydedd. ‘Person ifanc ar gyfer yr ifanc!’

Byddaf hefyd yn gwrando arnoch, oherwydd ni yw’r dyfodol, mae gennym ni’r hawl i ddweud ein dweud yn y Senedd ieuenctid newydd a chyffrous yma. Drwy bleidleisio amdanaf byddwch chi yn sicrhau llais cryf a hyderus yn yr antur yma.

O Gastell Martin i Gaerfyrddin, mae’n ardal fy etholaeth gyda lleoliadau mwyaf godidog yn y byd o Sir Gar i Sir Benfro. Gwledig a trefol. Ystyriaf y rhain i gyd yn bwysig i mi a cheisiaf fy ngorau i gynrychioli ardaloedd etholwyr.   Pleidleisiwch dros newid. Pleidleisiwch dros Cai.

Tymhorau yn y swydd

  1. 05/12/2018 - 05/03/2021

Digwyddiadau calendr: Cai Thomas Phillips