Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Callum Morrissey

Callum Morrissey

Gorllewin Clwyd

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Prydau ysgol am ddim i bawb
  • Iechyd Meddwl a Lles
  • Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Callum Morrissey

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Mae’r ymadrodd ‘Anelu’n uchel’ yn amlygu sut mae cyfleoedd yn amrywio yn seiliedig ar fraint; i lawer, dydy ‘uchel’ ddim yr un peth. Mae’n rhaid i hyn newid. Mae pob disgybl yn haeddu adnoddau, dim ots beth yw ei gefndir. Os caf fy ethol, dw i’n mynd i weithio ar gael gwared ar anghydraddoldebau addysgol drwy eirioli dros brydau ysgol am ddim mewn ysgolion uwchradd, gan sicrhau bod pob disgybl yn gallu canolbwyntio ar ei addysg. Hefyd, dan Erthygl 12 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Plant, mae gan ddisgyblion hawl i deimlo’n ddiogel yn yr ysgol, a dw i’n mynd i wthio am fwy o gymorth iechyd meddwl ym mhob ysgol. Fel Llysgennad Disgyblion NCREW, dw i hefyd yn mynd i eirioli am amser dysgu dan arweiniad penodol ar gyfer y cwricwlwm Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg newydd, fydd yn galluogi pob disgybl i ddatblygu barn lawn yn berthnasol i Cymru yn yr 21ain ganrif. Mae bob pwnc uchod yn flaenoriaeth i mi, a dw i’n meddwl bod rhai eraill yn bwysig i’w datrys ar lefel genedlaethol. Dw i’n credu bod fy mhrofiad ac fy mrwdfrydedd i newid pethau yn fy ngwneud i’n ymgeisydd delfrydol.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/10/2024 -

Digwyddiadau calendr: Callum Morrissey