Datganiad
Ymgeisydd: Helo! Fy enw i yw Celyn Richards, rwy’n 16 mlwydd oed ac yn dod o
San Cler, Caerfyrddin. Rwyf yn ddisgybl yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin, ac
newydd ddechrau yn y chweched dosbarth. Ar gyfer fy lefel A, rwyf yn astudio
llenyddiaeth Saesneg, Cymraeg a gwleidyddiaeth. Rwyf yn hoff iawn o fywyd
cymdeithasol yr ysgol, ac yn rhan o’r cor, ac hefyd wedi derbyn y cyfle i
gystadlu mewn sawl cystadleuaeth fel Siarad Cyhoeddus a’r Eisteddfod. Mae fy
niddordebau yn cynnwys canu, chwarae’r piano. Rwyf hefyd yn aelod o aelwyd
Hafodwenog, ac yn aelod o glwb ffermwyr ifanc Penybont. Rwyf wedi bod yn aelod
o’r ffermwyr ifanc am 5 mlynedd bellach, ac wedi derbyn amryw o gyfleoedd. Rwyf
yn is-gadeirydd ar y fforwm Ieuenctid sirol, ac yn gadeirydd ar lefel Cymru.