Datganiad
Ymgeisydd: Fy enw i yw Charlotte, rydw i’n 16 oed ac ar hyn o bryd yn astudio
fy Safon Uwch mewn troseddeg, hanes a gwleidyddiaeth. Rydw i am fod yn aelod o
Senedd Ieuenctid Cymru oherwydd rydw i'n teimlo bod gen i lawer o syniadau da
ac y gallaf gyfrannu'n gadarnhaol at yr ieuenctid. Byddaf yn mynd i ysgolion ym
mhob man, o ysgolion cynradd i brifysgolion ac yn gofyn iddynt beth maen nhw ei
eisiau, ac yn dod o hyd i ffyrdd i'w helpu i ddylanwadu ar y ffordd rydyn ni'n
cael ein rhedeg. Rydw i’n sefyll dros bobl ifanc ac yn addo bod yn lais sydd ei
angen arnyn nhw. Rydw i’'n gwybod yn bersonol pa faterion y mae pobl ifanc yn
eu hwynebu oherwydd fy mod i’n gwirfoddoli mewn darpariaethau ieuenctid. Sy'n
fy arwain at fy mhrofiad, rydw i'n astudio gwleidyddiaeth Safon Uwch felly
byddaf yn gallu defnyddio hynny ochr yn ochr gyda fy mhrofiad o gynorthwyo'r
ieuenctid yn ystod fy nghyfnod yn y senedd ieuenctid, rydw i hefyd yn mwynhau
cael y wybodaeth ddiweddaraf am bethau sy'n digwydd mewn gwleidyddiaeth sy'n
effeithio'n arbennig ar ieuenctid oherwydd mae'n bwysig i mi fy mod yn gwybod
beth sy'n digwydd yn y DU fydd yn effeithio arna fi.