Datganiad
Ymgeisydd: Ydych chi’n gwybod pa mor bwerus all eich pleidlais fod? Peidiwch
â’i gwastraffu. Peidiwch â’i gwastraffu ar addewidion gwag. Peidiwch â’i
gwastraffu ar fuddiannau pobl eraill ac yn bwysicach na dim, peidiwch â’i
gwastraffu ar faterion sydd ddim yn effeithio arnoch chi! Rydw i wedi gweld sut
mae gwleidyddiaeth yn anwybyddu anghenion pobl ifanc, felly dw i’n gweithio’n
galed i newid hyn.
Nid yw safon
addysg yn ddigon da. Fy mwriad yw sicrhau mwy o fuddsoddiad i addysg a
thechnoleg. Creu amgylchedd dysgu diogel a hwylio ar gyfer dyfodol lle byddwn
ni i fyd yn cael yr addysg orau.
Mae iechyd meddwl
yn hanfodol i’n lles, ond dydyn ni’m yn ei addysgu ddigon mewn ysgolion. Byddaf
yn gwthio dros hyn, ac i athrawon gael hyfforddiant ar sut i gefnogi pobl sy’n
dioddef gydag iechyd meddwl yn well.
Dw i’n gwybod
faint rydyn ni’n poeni am ddyfodol y blaned. Beth am weithredu cyn iddi fynd yn
rhy hwyr? Byddaf yn ymgyrchu dros blannu rhagor o goed a gwella bioamrywiaeth,
fel y gallwn fwynhau ein planed am flynyddoedd i ddod.
Peidiwch â
phleidleisio dros eraill, pleidleisiwch drosoch chi eich hun!