Roedd Elena yn
Aelod o'r ail Senedd Ieuenctid Cymru o 2021 i 2024.
Dyma ei datganiad
pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer ail Senedd Ieuenctid Cymru:
Fy mhrif ystyriaethau:
- Adfer addysg wedi’r pandemig
- Newid
hinsawdd ac egni cynaliadwy
- Mater
o Bwys 3: Iechyd a ffitrwydd
pobl Ifanc
Datganiad
Ymgeisydd: Rwy’n aelod o chweched dosbarth Ysgol Gyfun Gwyr. Rwy’n ymgeisio i fod
yn aelod o'r Senedd Ieuenctid oherwydd yn sgil y pandemig a'r ddwy flynedd
gythryblus ddiwethaf, mae rhoi llais cryf i bobl ifanc yn bwysicach nag
erioed.
Mae sicrhau
hawliau a dyfodol plant a phobl ifanc yn bwysig iawn i mi. Rwyf yn Gadeirydd De
Cymru panel ymgynghorol ieuenctid Comisiynydd Plant Cymru a thrwy fy mhrofiad
ar y panel yma rwyf wedi datblygu’r sgiliau sydd angen i fod yn aelod
effeithiol o’r Senedd Ieuenctid.
Rwyf wedi
ysgrifennu erthyglau ar gyfer amryw o gylchgronau a blogiau, yn cynnwys elusen
‘Plant yng Nghymru’, ac wedi cael y fraint o siarad ar baneli ac mewn
cyfarfodydd fel ‘Women’s Equality Network’
am hawliau merched a phobl ifanc, gan ddatblygu fy sgiliau cyfathrebu
cyhoeddus. Rwyf wedi helpu i redeg gweithdai hawliau plant ar draws De Cymru ac
yn aelod gweithgar o grwp hawliau plant a merched fy ysgol ers pum mlynedd.
Os caf fy ethol
i’r Senedd Ieuenctid, byddaf eisiau clywed eich barn, er mwyn gallu tynnu sylw
at y materion sy’n bwysig i chi. Byddwch yn gallu cysylltu’n uniongyrchol a mi,
nid yn unig trwy’r ysgol ond trwy gyfrifon Trydar ac Instagram
arbennig.