Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Elin Llwyd Brychan

Elin Llwyd Brychan

Arfon

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Dyfodol yr Iaith Gymraeg
  • Twristiaeth Gynaliadwy
  • Rhwydwaith trafnidiaeth hwylus

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Elin Llwyd Brychan

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Dymunaf fod yn aelod o’r Senedd Ieuenctid oherwydd hoffwn fod yn rhan weithredol o lunio dyfodol pobl ifanc Cymru. Fel rhywun sydd â chysylltiadau gyda mudiadau ieuenctid lleol rwy’n ymwybodol o’r materion sydd o bwys iddynt felly teimlaf yn gymwys i’w cynrychioli. Rwy’n aelod o Fforwm Ieuenctid yr Urdd, Grwpiau Cerdd Gwynedd a Môn, a’r Clwb Ffermwyr Ifanc. Hefyd, ystyriaf fy hun fel ymgeisydd cryf oherwydd credaf mewn bachu ar bob cyfle a phrofiad. Rwy’n un o sylfaenwyr aelwyd yr Urdd Caernarfon, rwy’n hyfforddi pêl-rwyd i dimau iau ac yn trefnu gigiau ieuenctid. Yn ogystal, rwy’n unigolyn sy’n meddu ar ddaliadau cryf. Rwy’n gweithio i fenter gymunedol ac rwy’n gwirfoddoli mewn digwyddiadau lleol cynaliadwy a diwylliannol. Mae’r profiadau yma wedi datblygu fy sgiliau cyfathrebu a rhwydweithio, trefnu a datrys problemau. Yn ogystal, rwy’n ymgeisydd delfrydol gan fy mod yn berson cydwybodol a dibynadwy sy’n credu’n gryf y dylai llais pobl ifanc gael ei glywed wrth ffurfio ein dyfodol.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/10/2024 -

Digwyddiadau calendr: Elin Llwyd Brychan