Roedd Ella yn
Aelod o'r ail Senedd Ieuenctid Cymru o 2021 i 2024.
Dyma eidatganiad
pan oeddynymgeisyddyn yr etholiad ar gyfer ail Senedd Ieuenctid Cymru:
Fy mhrifystyriaethau:
Brwydroynerbynnewidyn yr hinsawddynlleol
Hyrwyddocydraddoldeb ac
iechyd meddwl
Cefnogigweithwyrallweddol (adferiadpandemig)
Datganiad
Ymgeisydd: Mae newid yn dechrau gyda ni. Newid ar gyfer yr amgylchedd, yr
economi, a’r bobl. Mae pleidlais i mi yn bleidlais i bawb, gan y byddaf yn rhoi’r
brif flaenoriaeth i anghenion cymunedau Cymru. Rwy’n brofiadol ac yn hyddysg
iawn mewn gwleidyddiaeth fel rhywun sydd wedi cymryd rhan mewn etholiadau ffug
ac wedi darllen theori wleidyddol. Byddwn yn cyfathrebu’n barhaus â’m cyfoedion
i gael eu mewnbwn ar sut y gallaf fod o fudd i’n hardal. Rwyf am weld Abertawe
yn ffynnu, ac adeiladu dyfodol lle gallwn dyfu i fyny mewn lle amrywiol,
croesawgar a diogel. Rwy’n amgylcheddwr sy’n angerddol dros warchod ein natur
a’r golygfeydd hardd yn Abertawe. Byddwn yn Aelod rhagorol o’r Senedd Ieuenctid
oherwydd fy uchelgais, angerdd ac ymennydd rhesymegol. Fel rhywun sydd ar yr
ymylon, rwy’n ymroddedig i wella bywydau’r rhai y gwahaniaethir yn eu herbyn.
Rydw i, fel llawer o bobl eraill, wedi colli anwyliaid i’r pandemig ac rwy’n
awyddus i gefnogi’r gweithwyr allweddol pan fydd hynny yn hollbwysig. Gwn fod
gweithio gydag eraill yn golygu bod yn rhaid imi ddarparu ar gyfer eu
hanghenion, felly byddaf yn sicrhau bod unrhyw drafodaethau rwy’n eu cael yn
lleol yn hygyrch. Pleidleisiwch drosof i, pleidleisiwch dros Abertawe.