Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Ella Kenny

Ella Kenny

Dwyrain Abertawe

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd yn lleol
  • Hyrwyddo cydraddoldeb ac iechyd meddwl
  • Cefnogi gweithwyr allweddol (adferiad pandemig)

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Y Cyfarfod Llawn | 21/06/2023

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Ella Kenny

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Mae newid yn dechrau gyda ni. Newid ar gyfer yr amgylchedd, yr economi, a’r bobl. Mae pleidlais i mi yn bleidlais i bawb, gan y byddaf yn rhoi’r brif flaenoriaeth i anghenion cymunedau Cymru. Rwy’n brofiadol ac yn hyddysg iawn mewn gwleidyddiaeth fel rhywun sydd wedi cymryd rhan mewn etholiadau ffug ac wedi darllen theori wleidyddol. Byddwn yn cyfathrebu’n barhaus â’m cyfoedion i gael eu mewnbwn ar sut y gallaf fod o fudd i’n hardal. Rwyf am weld Abertawe yn ffynnu, ac adeiladu dyfodol lle gallwn dyfu i fyny mewn lle amrywiol, croesawgar a diogel. Rwy’n amgylcheddwr sy’n angerddol dros warchod ein natur a’r golygfeydd hardd yn Abertawe. Byddwn yn Aelod rhagorol o’r Senedd Ieuenctid oherwydd fy uchelgais, angerdd ac ymennydd rhesymegol. Fel rhywun sydd ar yr ymylon, rwy’n ymroddedig i wella bywydau’r rhai y gwahaniaethir yn eu herbyn. Rydw i, fel llawer o bobl eraill, wedi colli anwyliaid i’r pandemig ac rwy’n awyddus i gefnogi’r gweithwyr allweddol pan fydd hynny yn hollbwysig. Gwn fod gweithio gydag eraill yn golygu bod yn rhaid imi ddarparu ar gyfer eu hanghenion, felly byddaf yn sicrhau bod unrhyw drafodaethau rwy’n eu cael yn lleol yn hygyrch. Pleidleisiwch drosof i, pleidleisiwch dros Abertawe.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Ella Kenny