Roedd Ellie yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
- Addysg: dylai
barchu ein traddodiadau
- Llety: angen
mwy o safleoedd parhaol
- Iechyd/Llesiant:
helpu pobl i gyrraedd eu potensial
Rydw i'n ferch 14 oed o'r gymuned Sipsiwn-Teithwyr o dref Penfro yn Sir
Benfro. Rwy'n byw yn yr ardal leol gyda Mam, Dad a 3 brawd. Rwy'n mynychu
Prosiect y Priory, uned uwchradd i blant Sipsiwn a Theithwyr, ac rwy'n mwynhau
mynd yno.
Mae teulu'n bwysig iawn. Rwy'n helpu i gadw'r tŷ yn lรขn, rwy'n gwarchod fy mrodyr iau a helpu fy
Mam-gu. Mae gen i lawer o ddiddordebau gan gynnwys gwrando ar gerddoriaeth a
threulio amser gyda ffrindiau.
Mae gen i ddiddordeb mawr mewn gwallt a harddwch a phan fyddaf yn hŷn, hoffwn fod yn weithiwr harddwch.
Mae gen i lawer o brofiad o fod yn aelod o Gynulliad Ieuenctid Sir Benfro a
chymryd rhan mewn grwpiau llywio Llywodraeth Cymru. Rydw i'n dda am siarad
cyhoeddus ac yn mwynhau trafod materion a gwleidyddiaeth.
Mae gennyf ddealltwriaeth dda am yr hyn sy'n effeithio ar bobl ifanc sy'n
sipsiwn a theithwyr ac mae gen i'r sgiliau i gyfathrebu hyn i oedolion. Fel
aelod gweithgar o'r gymuned Sipsiwn-Teithwyr leol a chenedlaethol, credaf y
byddwn yn gallu gwneud cyfraniad gwerthfawr i'r senedd hon.
Rwy'n falch o fy ngefndir a byddwn yn falchach byth o allu siarad dros fy
nghymuned.