Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Ellie Murphy

Ellie Murphy

Tros Gynnal Plant Cymru

Roedd Ellie yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Ellie Murphy

Bywgraffiad

Roedd Ellie yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Addysg: dylai barchu ein traddodiadau
  • Llety: angen mwy o safleoedd parhaol
  • Iechyd/Llesiant: helpu pobl i gyrraedd eu potensial

Rydw i'n ferch 14 oed o'r gymuned Sipsiwn-Teithwyr o dref Penfro yn Sir Benfro. Rwy'n byw yn yr ardal leol gyda Mam, Dad a 3 brawd. Rwy'n mynychu Prosiect y Priory, uned uwchradd i blant Sipsiwn a Theithwyr, ac rwy'n mwynhau mynd yno.

Mae teulu'n bwysig iawn. Rwy'n helpu i gadw'r tŷ yn lรขn, rwy'n gwarchod fy mrodyr iau a helpu fy Mam-gu. Mae gen i lawer o ddiddordebau gan gynnwys gwrando ar gerddoriaeth a threulio amser gyda ffrindiau.

Mae gen i ddiddordeb mawr mewn gwallt a harddwch a phan fyddaf yn hŷn, hoffwn fod yn weithiwr harddwch.

Mae gen i lawer o brofiad o fod yn aelod o Gynulliad Ieuenctid Sir Benfro a chymryd rhan mewn grwpiau llywio Llywodraeth Cymru. Rydw i'n dda am siarad cyhoeddus ac yn mwynhau trafod materion a gwleidyddiaeth.

Mae gennyf ddealltwriaeth dda am yr hyn sy'n effeithio ar bobl ifanc sy'n sipsiwn a theithwyr ac mae gen i'r sgiliau i gyfathrebu hyn i oedolion. Fel aelod gweithgar o'r gymuned Sipsiwn-Teithwyr leol a chenedlaethol, credaf y byddwn yn gallu gwneud cyfraniad gwerthfawr i'r senedd hon.

Rwy'n falch o fy ngefndir a byddwn yn falchach byth o allu siarad dros fy nghymuned.

Digwyddiadau calendr: Ellie Murphy