Roedd Elliot yn Aelod o trydydd Senedd Ieuenctid Cymru o Hydref 2024 i
Gorffennaf 2026.
Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer trydydd
Senedd Ieuenctid Cymru:
Fy mhrif ystyriaethau:
- Cefnogaeth
a ddarperir i blant a phobl ifanc mewn gofal
- Cymorth
a gofal mewn gwasanaethau iechyd meddwl a niwroddatblygu i blant a phobl
ifanc
- Gwella
dealltwriaeth o anghenion addysg arbennig ac iechyd meddwl yn y sector
addysg
Helo, Elliott ydw i, rydw i wedi bod mewn gofal maeth a gofal preswyl.
Rwy'n angerddol am hawliau plant ac yn benodol plant mewn gofal. Mae goresgyn
rhwystrau rwyf wedi eu hwynebu oherwydd fy niwrowahaniaethau wedi fy ngwneud i
pwy ydw i heddiw. Mae fy niddordebau yn cynnwys gwirfoddoli yn fy nghanolfan gymunedol
leol, chwarae'r drymiau a'r piano, ac rwy'n llysgennad ac yn un o aelodau
ieuengaf grŵp
cynghori VFCC. Dwi wrth fy modd gyda gwyddoniaeth ac unrhyw beth i wneud gyda’r meddwl a'r corff, a hoffen i fod yn
athro bioleg. Rwy'n teimlo'n angerddol iawn am addysgu hunan-eiriolaeth yn y
system ofal. Rwy'n berson gonest a ffyddlon.
Y materion allweddol i mi yw'r cymorth a ddarperir i blant a phobl ifanc
mewn gofal, cyllid a chymorth a ddarperir gan wasanaethau iechyd meddwl a niwroamrywiol
a gwella dealltwriaeth o anghenion addysgol arbennig ac iechyd meddwl mewn
ysgolion.