Roedd Emily yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
- Iechyd meddwl
myfyrwyr
- Gwahaniaethu ar
sail crefydd a hil
- Addysg sgiliau
bywyd
Hoffwn fod yn aelod o’r Senedd Ieuenctid am nifer o resymau. Rwy’n awyddus
i wneud gwahaniaeth, a helpu i greu dyfodol gwell i bawb o fy nghwmpas. Rwyf am
weld pobl yn rhoi’r gorau i gredu eu bod yn rhy ifanc neu’n ddi-bŵer i wneud newid. Mae angen gwneud llawer
o bethau, ac rwy’n
barod i ymdrechu i wneud i hynny ddigwydd.
Byddaf yn ymgynghori â phobl ifanc drwy rannu’r gair ar y cyfryngau
cymdeithasol ac ymweliadau drwy gymuned yr ysgol ag ysgolion eraill. Fy sgiliau
sy’n fy ngwneud yn dda ar gyfer y swydd hon yw fy mod yn ddibynadwy, yn
hyderus, yn meddu ar sgiliau gweithio mewn tîm, o natur weithgar, yn onest, yn
barod am her ac yn amyneddgar. Rwy’n rhaglaw, roeddwn yn gapten blwyddyn, ac
wedi cynrychioli’r cyngor ysgol am 3 mlynedd, ac rwy’n aelod gweithgar o’r
gymuned leol a’r ysgol.
Dylai rhywun bleidleisio drosaf gan fy mod yn barod i fod y person hwnnw
sy’n gwrando ac yn wynebu eich problemau a phryderon yn ymarferol er mwyn
gwneud Cymru yn lle gwell i ni gyd fyw ynddo.