Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Tŷ Gobaith a Tŷ Hafan

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Gwella’r cymorth iechyd meddwl sydd ar gynnig
  • Darparu gofal iechyd o ansawdd gwell
  • Gwneud trafnidiaeth yn fwy dibynadwy a hygyrch

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl:

Bywgraffiad

Datganiad Ymgeisydd: Rwy’n ferch 16 oed, yn rhugl yn y Gymraeg, ac ar hyn o bryd yn fy mlwyddyn gyntaf yn astudio ar gyfer Safon Uwch mewn Seicoleg, Almaeneg, Llenyddiaeth Saesneg, a Mathemateg. Rwy'n hoffi actio, darllen a phaentio. Pan oeddwn yn 2, cafodd fy mrawd ei eni ag anableddau dysgu dwys a lluosog, a chymhlethdodau iechyd. Mae angen iddo ddefnyddio cadair olwyn, ac nid yw'n gallu cyfathrebu. O ganlyniad, mae fy nheulu a minnau’n cael cefnogaeth gan Tŷ Gobaith ac rwyn falch iawn o allu cynrychioli Tŷ Gobaith a Thŷ Hafan yn Senedd Ieuenctid Cymru.

Fy nod yw cefnogi iechyd meddwl pobl ifanc yn well, oherwydd y gydberthynas rhwng anawsterau dysgu a materion iechyd meddwl. At hynny, rwy’n dymuno darparu gwell gofal iechyd, gan fod pobl ag anableddau yn llawer mwy tebygol o fod angen triniaeth neu lawdriniaeth gan y GIG. Yn olaf, hoffwn hefyd wella safon trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd dibyniaeth gynyddol pobl anabl ar drafnidiaeth gyhoeddus.

Rwy’n gobeithio, yn ystod fy amser yn y Senedd, y gallaf wneud gwahaniaeth ym mywydau plant anabl a’u teuluoedd ledled Cymru, a gwneud yn siŵr bod lleisiau pobl yn cael eu clywed.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 12/10/2024 -

Digwyddiadau calendr: