Datganiad
Ymgeisydd: Helo, Eve ydw i (hi) ac rydw i’n falch o gynrychioli Girlguiding
Cymru yn Senedd Ieuenctid Cymru. Rydw i wastad wedi bod eisiau gwneud Cymru'n
lle gwell i bobl ifanc, a dyma fy nghyfle!
Rydw i'n aelod o
gyngor myfyrwyr fy ysgol a chlwb trafod fy ysgol, a hefyd yn gapten y tîm hoci
merched. Rydw i'n dangos fy ngofal o natur drwy eco-bwyllgorau, a streiciau
cyfiawnder hinsawdd. Rydw i'n cefnogi elusennau lleol drwy redeg stondinau a
gwneud parseli bwyd.
Fy materion
targed sy'n effeithio ar bobl ifanc yng Nghymru yw addysg, iechyd meddwl a'r
amgylchedd. Mae gan Gymru ganlyniadau addysg ôl-16 gwaeth na gweddill y DU. Mae
bron i 1 o bob 4 dysgwr ysgol uwchradd yn nodi symptomau iechyd meddwl. Yn
2021, rhyddhaodd Cymru 36.3 tunnell o CO2 i mewn i'r atmosffer. Gallwn wneud yn
well.
Mae Girlguiding
wedi fy helpu i adnabod fy hun. Mae wedi rhoi cyfeillgarwch ac mae wastad wedi
bod yn graig y gallaf bwyso arni, gan fy nysgu a ngwneud yn berson gwell.
Roeddwn i'n falch o orymdeithio yn Brecon Pride gyda baner 'Guide with Pride' a
gwên!