Roedd Evie yn
Aelod o'r ail Senedd Ieuenctid Cymru o 2021 i 2024.
Dyma eidatganiad
pan oeddynymgeisyddyn yr etholiad ar gyfer ail Senedd Ieuenctid Cymru:
Fy mhrifystyriaethau:
Iechyd
yr amgylchedd/Gwellansawddaer
Gwelladdysg ar hiliaeth
Defnyddparhaus o’r iaith Gymraeg
Datganiad
Ymgeisydd: Bu gennyf ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth erioed. Y teimlad o
rwystredigaeth a’r dyhead i wneud gwahaniaeth i'r byd heb wybod sut i wneud hynny
yw’r rheswm pam rydw i eisiau dod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru. Wrth dyfu
i fyny mewn amgylched tref ac ysgol ble roedd y bobl o'm cwmpas yn wyn yn
bennaf, roeddwn i'n aml yn teimlo, ac yn dal i deimlo, fel nad oeddwn i byth yn
perthyn mewn gwirionedd. Byddwn i wrth fy modd yn defnyddio fy mhrofiadau o’r
gorffennol a'r presennol i wneud pobl ifanc eraill, sydd efallai’n
teimlo fel yr arferwn i deimlo, yn llai unig, a sicrhau eu bod nhw gymaint ag
unrhyw un arall yn gallu lleisio’u barn a pherthyn i le y gwrandewir arnynt.
Dylai pobl bleidleisio drosof gan fy mod wir yn meddwl y gallwn wrando ar
leisiau pobl ifanc wrth fod yn wyneb cyfeillgar y maen nhw'n teimlo y gallen nhw ymddiried ynddo. Drwy’r ysgol, yn y gwaith a
gweithgareddau eraill, drwy ganu clychau, gwirfoddoli gyda’r Cybiau a bod yn
aelod o gerddorfa ysgolion uwchradd Caerdydd a’r Fro rydw i wedi fy amgylchynu
â phobl ifanc eraill a'u barn. Maent i gyd wedi rhoi digon o gyfleoedd imi
ddarganfod yr hyn y mae pobl ifanc Cymru ei eisiau mewn gwirionedd. Rwy'n credu
fod gan bob person ifanc gymaint i'w roi a’i ddweud os ydym yn cael y cyfle
iawn i wneud hynny.