Roedd Ffion yn
Aelod o'r ail Senedd Ieuenctid Cymru o 2021 i 2024.
Dyma eidatganiad
pan oeddynymgeisyddyn yr etholiad ar gyfer ail Senedd Ieuenctid Cymru:
Fy mhrifystyriaethau:
Lleihaucostautrafnidiaethcyhoeddus
Cefnogidysgwyrangheniondysguychwynegol
Gwella
cyfleoeddyn y Cymoedd
Datganiad
Ymgeisydd : Rwy’n dda am wrando, rwy’n angerddol dros fy ardal, ac rwy’n gallu
cynnig llais cryf i bobl ifanc Cymru.Dyna
pam hoffwn fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru dros Bontypridd
– i gynrychioli pobl ifanc o bob cefndir ac i sicrhau tegwch, cyfiawnder a
chwarae teg i’r genhedlaeth hon. Byddaf yn defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol
er mwyn cyfathrebu gyda phobl ifanc, ac ymgysylltu gyda grwpiau gwahanol er
mwyn deall a thrafod yr heriau sy’n eu hwynebu. Rwy’n ferch 16 oed sydd wedi
profi nifer o’r anhawsterau sy’n gyffredin ymhlith
pobl ifanc yn enwedig ar ôl cyfnod clo mor hir - ac mi allwch ddibynnu arnaf i
gynnig atebion cadarnhaol a gwneud gwahaniaeth. Dwi'n berson cyfeillgar,
optimistaidd sy’n agored i syniadau newydd er mwyn sicrhau fod pob person yn
cael ei glywed. Rwy’n gweithio yng nghlybiau i bobl ifanc yr ardal, gan gynnwys
pobl ag anghenion ychwanegol, ac rwy’n deall yr angen ar gyfer adnoddau
ychwanegol a gwasanaethau er mwyn sicrhau fod pawb yn gallu cyflawni eu
potensial – beth bynnag yw eu cefndir a lle bynnag maen nhw’n byw. Mae angen
cynnig gobaith a chreu dyfodol gwell i bobl ifanc Cymru, ac rydw i am chwarae
fy rhan wrth sicrhau hynny.